Caernarfon Station Plan

Mae gwaith yn mynd rhagddo ar yr orsaf newydd yng Nghaernarfon. Y cam cyntaf oedd dargyfeirio’r garthffos sy'n rhedeg o dan y safle, cyn cychwyn ar y gwaith adeiladu yn ddiweddarach yn 2017.

Ers i Reilffordd Eryri agor yn y dref yn 1997, gan redeg dim ond tair milltir i Ddinas, mae'r lein 25 milltir o hyd - rheilffordd treftadaeth hiraf y DU - wedi cael ei ymestyn mewn camau, gan agor o'r diwedd i Borthmadog yn 2011. Trwy gydol yr amser yma, mae Gorsaf Caernarfon wedi bodoli fel strwythur dros dro.

Bydd yr orsaf £2.2m newydd yma yn ffurfio rhan allweddol o Brosiect £16m Datblygu Glannau Caernarfon, a arweinir gan Gyngor Sir Gwynedd er mwynrhoi hwb mawr i’r ardal hanesyddol yma. Mae trefniadau ariannu ar gyfer y gwaith yn mynd rhagddynt yn dda ar gyfer yr adeilad newydd a bydd hyn yn cynnig cyfleusterau llawer gwell ar gyfer ymwelwyr sy'n cyrraedd ar y ffordd neu ar y rheilffordd o Borthmadog. Cwblhawyd prosiect gwella gorsafoedd mawr y Rheilffordd ym Mhorthmadog yn 2014.

Cynhaliodd y rheilffordd nifer o ddigwyddiadau ymgynghori cyhoeddus yn y dref ac ymgorfforwyd syniadau ac awgrymiadau’r trigolion lleol ac ymwelwyr yn y dyluniad deulawr newydd. Bydd yr adeilad yma’n cynnwys adrannau manwerthu ac arlwyaeth ynghyd â man dehongli hanes ardal y cei a'r rheilffordd. Ar hyn o bryd, mae penseiri yn cwblhau manylion y datblygiad.

Caernarfon Station works March 2017 - David TidyMae'r rheilffordd yn gweithio'n agos gydag Ymddiriedolaeth Harbwr Caernarfon, sydd yn hynod gefnogol i'r prosiect, a bydd teithwyr sy'n cyrraedd Caernarfon gyda char yn gallu defnyddio maes parcio’r Ymddiriedolaeth o ganlyniad i’r orsaf newydd gael ei lleoli ar faes parcio blaenorol y rheilffordd.

Mae'r datblygiad yn defnyddio'r tir lle'r oedd adeiladau dros dro'r orsaf reilffordd a'r maes parcio. Dechreuodd y gwaith yn Nhachwedd 2016 gyda'r contractwyr yn adleoli'r garthffos fawr sy'n rhedeg o dan y safle. Bydd adeiladu'r orsaf newydd yn cael ei gwblhau yn 2018.

Oherwydd y gwaith yma, bu trenau Santa Rheilffordd Eryri eleni yn rhedeg yn llwyddiannus iawn o Ddinas yn hytrach na Chaernarfon. Yn ystod tymor yr haf, bydd trenau RhE yn gweithredu o eiddo a rentir dros dro ar draws y ffordd o orsaf Caernarfon, gan ddefnyddio adeilad blaenorol Age Concern.

Disgwylir i'r orsaf newydd yng Nghaernarfon gynyddu’r nifer o ymwelwyr a ddaw i Gaernarfon yn ogystal â Rheilffordd Ffestiniog a Rheilffordd Eryri gan (amcangyfrifir) 5,000 o deithwyr bob blwyddyn. Mae Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri eisoes yn darparu manteision sylweddol i'r economi lleol, gan gynhyrchu (amcangyfrifir) oddeutu £25 miliwn bob blwyddyn ac yn creu mwy na 400 o swyddi.

cfnstnconstrn1

Ym mis medi cafodd fframwaith yr orsaf newydd ei adeiladu. Disgwylir bydd gwaith ar yr orsaf yn cael ei cwblhau yn ystod 2018.